SL(5)153 - Rheoliadau Bwydydd Newydd (Cymru) 2017
Cefndir a diben
Bydd Rheoliadau Bwyd Newydd (Cymru) 2017 yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Bwydydd Newydd a Chynhwysion Bwydydd Newydd 1997 (1997/1335) yng Nghymru, sy'n darparu ar gyfer gorfodi'r Rheoliadau Bwydydd Newydd (EC) Rhif 258/97. Bydd y Rheoliadau hefyd yn dirymu Rheoliadau Bwydydd Newydd a Chynhwysion Bwydydd Newydd (Ffioedd) 1997 (1997/1336) mewn perthynas â Chymru a Rheoliadau Ensymau Bwyd (Cymru) 2009 (2009/3377).
Diben Rheoliadau Bwydydd Newydd (Cymru) 2017 yw:
i. Sicrhau bod y rheini sy'n dod â bwydydd newydd i'r farchnad yng Nghymru yn cydymffurfio'n llawn â gofynion deddfwriaethol newydd yr UE. Mae hyn yn cefnogi defnyddwyr sy'n manteisio ar arloesi bwyd diogel ac yn hwyluso masnach mewn bwydydd newydd gan fusnesau'r DU, gan roi amddiffyniad i iechyd dynol a buddiannau defnyddwyr;
ii. Darparu ar gyfer gorfodi Rheoliad newydd yr UE ar fwydydd newydd drwy ddefnyddio dulliau gorfodi gwell y gellir eu defnyddio i ymdrin ag achosion lle mae amheuaeth o ddiffyg cydymffurfio â Rheoliad yr UE ac ystod o gosbau sifil;
iii. Cadw'r opsiwn o gymryd camau erlyn a darparu ar gyfer amddiffynfeydd yn erbyn erlyniad a phennu hawl i apelio yn erbyn gosod hysbysiad gwella mewn amgylchiadau penodol; a
iv. Phennu cosbau y gall y Llysoedd eu gosod yn sgil euogfarn a chaniatáu dyfarnu iawndal lle canfyddir nad yw awdurdodau gorfodi wedi cymryd camau priodol.
Y weithdrefn
Negyddol.
Materion technegol: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Craffu ar y rhinweddau
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd
Mae'r dadansoddiad a ganlyn yn seiliedig ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) ("y Bil") fel y'i cyflwynwyd.
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhan o "ddeddfwriaeth ddomestig sy'n deillio o'r UE" o dan gymal 2 o'r Bil, felly bydd y Rheoliadau hyn yn cael eu cadw fel cyfraith ddomestig a byddant yn parhau i gael effaith yng Nghymru o'r diwrnod ymadael ymlaen. Mae'r Bil yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru addasu'r Rheoliadau hyn er mwyn ymdrin â diffygion sy'n deillio o ymadael â’r UE, yn amodol ar rai cyfyngiadau.
Mae'r Rheoliadau hefyd yn darparu ar gyfer gorfodi Rheoliadau Bwydydd Newydd (EC) Rhif 258/97. Ar hyn o bryd mae Rheoliad UE 258/97 yn cael effaith uniongyrchol ar aelod-wladwriaethau'r UE, gan gynnwys Cymru. Ar ôl ymadael, bydd y Rheoliad hwn yn cael ei rewi a bydd yn cael ei gadw fel/ei drawsnewid yn gyfraith ddomestig o'r enw "deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a gedwir".
Ni fydd y Bil yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru (neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru) addasu unrhyw ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a gedwir, gan gynnwys Rheoliad 258/97 yr UE sy'n ymwneud â'r maes bwyd datganoledig. Rhoddir pŵer i addasu holl ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a gedwir i Weinidogion y DU; mae hyn yn cynnwys y pŵer i addasu deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a gedwir mewn meysydd datganoledig, heb yr angen am ganiatâd Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu Weinidogion Cymru.
Felly, os bydd Gweinidogion y Deyrnas Unedig yn defnyddio eu pwerau i addasu Rheoliad 258/97 yr UE fel deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a gedwir, bydd pŵer Gweinidogion Cymru i addasu'r Rheoliadau hyn yn gyfyngedig fel na all Gweinidogion Cymru wneud unrhyw beth sy'n anghyson â'r addasiad a wneir gan Weinidogion y DU.
Ymateb y Llywodraeth
Nid oes angen ymateb y llywodraeth.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
29 Tachwedd 2017